#
Tai Plant
Teitl y ddeiseb: P-05-859S Dylid darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy’n Dioddef Camdriniaeth Rywiol, a rhoi llais i bobl ifanc wrth gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru. Geiriad y ddeiseb: Mae'r
syniad y tu ôl i dai plant yn seiliedig ar yr arferion gorau
a welir yn yr UDA a Sgandinafia. Gan gydnabod bregusrwydd plant
sy'n ddioddefwyr, a'r niwed y mae cyfweliadau niferus yn ei achosi
iddynt, mae tai plant yn ymateb sy'n ystyriol o blant wrth ymdrin
ag achosion lle y cam-driniwyd plentyn yn rhywiol. Mae ar ein plant angen rhywle iddynt fynd iddo, mae angen iddynt fod yn ddiogel, ac mae angen iddynt allu cyrraedd y cymorth cywir i achub y plant hyn rhag oes o ddioddef oherwydd Camdriniaeth Rywiol.
|
Tai Plant yn Llundain
Mae'r ddeiseb yn cyfeirio at ddau 'Dŷ Plant' a sefydlwyd yn Llundain yn 2016. Mae’r datganiad i'r wasg gan Faer Llundain yn cyfeirio at yr arian sydd ar gael ar eu cyfer ac mae'n dweud:
The UK’s first two Child Houses, funded by £7.2m secured by the Mayor’s Office for Policing And Crime (MOPAC) and NHS England (London) from the Home Office Innovation Fund, will offer medical, investigative and emotional support in one place, removing the need for young victims to go through the trauma of repeating their statement several times to different agencies.
Mae'r datganiad i’r wasg yn mynd yn ei flaen i ddweud:
The new Child Houses, which will open next year, will build on the work of the CYP Haven. While the Haven offers an urgent 24/7 response, a predominantly clinical service and short term care and support, the Child Houses will provide a multi-agency, long-term support and advocacy service under one roof. Criminal justice aspects of aftercare will be embedded in the service, with evidence gathering interviews led by child psychologists on behalf of the police and social workers, and court evidence provided through video links to aid swifter justice.
[…]Based on the original Icelandic Barnahus model, which promotes a multiagency, interdisciplinary approach under one roof, the Houses will gather more effective evidence from interviews and offer faster progress in investigations and court cases.
Cyllid ar gyfer 'Tai Plant' Llundain
Gan gyfeirio at Swyddfa Plismona a Throsedd y Maer (MOPAC), mae gwybodaeth ar wefan Cynulliad Llundain yn nodi’r canlynol hefyd:
MOPAC and NHS England (London) successfully applied to the Home Office Police Innovation Fund and received a total of £7.2m over two years, matched with NHS England (London) funding, to implement the Child House model for victims of child sexual abuse and child sexual exploitation in London.
Mae hefyd yn nodi:
Previously £1m was allocated from the MoJ Victims Grant (DMPCD 2016 44) to support the development of the Child House model. As MOPAC has been successful in obtaining monies from the Home Office Innovations fund the £1m will be reallocated. A decision on how this will be spent will require further DMPC approval.
Model ‘Barnahus’ Gwlad yr Iâ
Dywed y datganiad i'r wasg gan Faer Llundain bod y Tai Plant yn Llundain yn seiliedig ar fodel Barnahus Gwlad yr Iâ. Argymhellwyd mabwysiadu'r model hwn mewn adolygiad yn 2005 sef NHS England Review of pathway following sexual assault for children and young people in London. Mae'n disgrifio model Barnahus fel hyn:
In Iceland for example, when a child discloses sexual assault, an appointment is made at the Barnahus. An interview is conducted by a specially trained forensic interviewer (with a background in child psychology) in a child-friendly room which is video-linked to an observation room. The interview is witnessed by the child’s advocate, social worker, the defence and prosecution teams, with a Judge presiding. The Barnahus is effectively an outreach of the courtroom at that time and the recorded interviews usually suffice as the child’s full testimony for court. The interviews are reportedly more successful in obtaining information with increases in the number of prosecutions and convictions for CSA. Because the interviews are usually completed within one to two weeks of the initial allegation being made, this allows the child to start therapy quickly, either at the Barnahus or locally. The recorded interviews are also used to plan therapy and medical examinations / aftercare can also be provided at the Barnahus.
Mae’r datganiad i'r wasg gan Faer Llundain yn mynd yn ei flaen i ddisgrifio Barnahus drwy ddweud:
The model recognises the vulnerability of the child victim and the harm caused to the child by multiple interviews. The Barnahus in Iceland provides one place in which the child can have forensic interviews and make court statements, have medical examination and access therapeutic services, which are also available for the victim’s family. Since the Barnahus model was established in Iceland, the number of child victims of CSA coming forward for help has more than doubled per year, indictments have more than tripled, and convictions have more than doubled. The Barnahus model has since been exported to Norway, Greenland and Denmark, with pilots planned in Finland and Lithuania.
Barn Comisiynydd Plant Lloegr:
Gan gyfeirio at yr arian ar gyfer y 'Tai Plant', dywed gwybodaeth ar wefan Cynulliad Llundain:
The Children’s Commissioner for England specifically recommended piloting the Barnahus (Child House) model and the use of child psychologists in Achieving Best Evidence (ABE) interviews in the UK.
Yn 2016, cyhoeddodd Comisiynydd Plant Lloegr, Anne Longfield adroddiad sef Report on Barnahus: improving the response to child sexual abuse in England. Ynddo, daeth i'r casgliad:
It is clear that the Barnahus represents a truly child-centred approach to child sexual abuse. Services are designed and administered in a manner consistent with the best possible criminal justice and therapeutic outcomes, and the results obtained are extremely impressive.
Experiences in Sweden, Norway and Denmark demonstrate that the model can be adapted and implemented within the legal framework of another country, without compromising the core principles which deliver such impressive results. It is now time for commissioners in England to look at how the model can be piloted here and adapted to our own legal system so as to help improve rates of prosecution and, ultimately, outcomes for children.
Safbwynt Llywodraeth Cymru
Ar 11 Rhagfyr 2018, ymatebodd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ar y pryd, Huw Irranca-Davies AC i ohebiaeth gan y Pwyllgor. Ynddo mae'n dweud bod casglu tystiolaeth i gefnogi'r broses erlyn yn golygu mai mater a gedwir yn ôl yw datblygu Tai Plant yn bennaf. Dywed y byddai'n ddoeth disgwyl am y gwerthusiad o Dai Plant yn Llundain. Mae ei ymateb i'r Pwyllgor yn cyfeirio hefyd at y trefniadau ariannu ar gyfer 'tai plant' a bod hynny'n debyg i'r trefniadau ariannu ar gyfer Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol.[1]
Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol
Mae Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) yn wahanol i 'Dai Plant'. Maent yn gyfleusterau pob oedran lle mae nifer o weithwyr proffesiynol amrywiol, sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig, wedi'u lleoli i gefnogi unigolion sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol. Diben y Canolfannau yw darparu lleoliad unigol, diogel lle gall dioddefwyr ymosodiad rhywiol dderbyn gofal meddygol a chwnsela, yn ogystal â chynorthwyo ymchwiliadau’r Heddlu i droseddau honedig. Dylent gynnwys cyfleusterau sy'n addas ar gyfer safon uchel o archwiliad fforensig.
Barn Comisiynydd Plant Cymru
Mae'r Comisiynydd yn hwyluso ac yn cadeirio cyfarfod bord gron cenedlaethol am gamfanteisio’n rhywiol ar blant. Ym mis Tachwedd 2018, cyhoeddodd yr Athro Sally Holland Adroddiad Blynyddol 2017-18 ac yn y datganiad i’r cyfryngau a gyhoeddwyd gyda’r adroddiad mae'n dweud:
Mae plant sydd wedi cael eu treisio neu sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol yn wynebu amserau aros annerbyniol cyn cael help a chymorth.
Mae prif bryderon y Pwyllgor yn ymwneud â dau faes:
§ nid yw plant sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol yn cael mynediad i archwiliad meddygol fforensig yn ddigon cyflym ar ôl y digwyddiad trawmatig y maent wedi'i brofi, oherwydd prinder staff meddygol cymwys a phrofiadol addas, ac yn aml mae'n rhaid iddynt deithio pellter maith;
§ nid yw mynediad at gwnsela arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc yr effeithir arnynt gan gam-drin rhywiol ar gael pan fo’i angen er mwyn i'r plant hynny ddechrau'r daith i adferiad.'
Aeth y Comisiynydd Plant ymlaen i argymell:
[....] y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau fod darpariaeth Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol ar gyfer ardal pob bwrdd iechyd yn cynnwys mynediad 24/7 i rota o bediatregwyr ac archwilwyr meddygol fforensig sydd wedi’u hyfforddi’n addas, fel nad oes rhaid i unrhyw blentyn aros am oriau lawer neu hyd yn oed ddyddiau am archwiliad, a bod gwasanaethau cwnsela ac adferiad digonol ar gael i ddioddefwyr ledled Cymru.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan nodi:
Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno na ddylai unrhyw un, boed yn oedolyn neu’n blentyn, orfod aros am wasanaethau ar ôl unrhyw achos o drais rhywiol. Gofal ac anghenion y dioddefwr ddylai fod yr ystyriaeth bennaf ym mhob gwasanaeth.
Cafwyd problemau ynghylch darpariaeth gwasanaethau paediatrig yn y blynyddoedd diwethaf ac ar hyn o bryd mae’r GIG yn arwain gwaith i ddatblygu model cynaliadwy a phriodol o wasanaethau ymosodiadau rhywiol ledled de, gorllewin Cymru a Phowys. Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn partneriaeth â’r Heddlu, asiantaethau diogelu, trydydd sector ac eraill ac yn cynnwys ystyried gwasanaethau plant. Bydd gwaith yn parhau gydol 2018 ac ymlaen i 2019. Yn y cyfamser, mae’r GIG yn gweithio gyda’i bartneriaid i sicrhau y gellir cynnig darpariaeth Archwilwyr Meddygol paediatrig a Fforensig ar gyfer plant yn amserol ac yn unol ag anghenion y person ifanc.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |
[1] Dywed y Gweinidog 'er mai fi yw’r Geinidog sy'n gyfrifol am ddiogelu plant, gan gynnwys plant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol, nid fi yw’r arweinydd polisi ar gyfer Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol'.
Mae ‘trais rhywiol' ymhlith cyfrifoldebau’r Prif Weinidog a restrir o dan ei Gyfrifoldebau Gweinidogol.